Since 1905
Yn swatio rhwng mor a mynydd, mae’r cwrs naw twll yma yn cynnig golygfeydd godidog o fynyddoedd Eryri a Bae Ceredigion.
Ffurfiwyd y clwb yn 1905 ac un o’r aelodau cynharaf, ac a fu’n gefnogol i’r clwb trwy gydol ei oes, oedd un o feibion enwoca’r ardal, y Prif Weinidog David Lloyd George. Roedd yn arfer chwarae’r cwrs yn aml gyda’i ffrindiau, yn ogystal a gwleidyddion disgleiriaf y cyfnod, neb llai na Winston Churchill ac Andrew Bonar Law.
Heddiw mae’r clwb yn nodedig am ei awyrgylch hamddenol a chyfeillgar, ac mae croeso cynnes i golffwyr o bob oed a safon. Ymwelwch a’r clwb golff i dorri syched a mwynhau pryd o fwyd ac edrych allan ar y golygfeydd bendigedig.
Mae’r cwrs yn ychwanegiad hyfryd at yr amrywiaeth eang o gyrsiau safonol eraill sydd yn yr ardal. Ymysg rhai o nodweddion y cwrs mae'r wythfed twll, gyda’r llain bytio tua 75 troedfedd uwch eich pen, yn gryn her i unrhyw chwaraewr. Mae cyrraedd y llain mewn dwy ergyd yn dipyn o gamp! Yna daw’r nawfed twll – par 3 tua 100 llath o hyd gyda’r llain bytio 100 troedfedd islaw!
Dewch i flasu’r hanes a’r golygfeydd a mwynhau gem o golff – mae croeso cynnes yn eich disgwyl.
Click photos to enlarge...
Click on photo links below
You are viewing the text version of this site.
To view the full version please install the Adobe Flash Player and ensure your web browser has JavaScript enabled.
Need help? check the requirements page.