Sefydlwyd clwb golff Criccieth yn 1905 ac mae wedi ei leoli oddeutu milltir i’r wlad o ganol y dref. Mae’r cwrs tonnog hwn ar ben y bryn yn enghraifft berffaith o’r gem golff fel ag yr oedd, ac fel y dylai fod. Mae’r lleoliad uwchben castell Criccieth yn sialens arbennig i unrhyw berson ac mae’r golygfeydd o fynyddoedd Eryri, yr arfordir syfrdanol a’r tirlun hanesyddol yn gefndir teilwng i gwrs golff unigryw yng ngogledd Cymru.
Mae Criccieth ei hun yn dref fechan gyfeillgar a hanesyddol iawn. Cyn-lywydd y clwb oedd David Lloyd George, Prifweinidog Rhyddfrydol y wlad yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf. Yn wir, mae’r clwb yn ymhyfrydu yn y ffaith bod tri prifweinidog o’r 20ed ganrif wedi chwarae yma ar yr un diwrnod – Andrew Bonar Law, David Lloyd George a Winston Churchill.
Mae’r cwrs hyfryd hwn yn asio’n berffaith a chyrsiau traddodiadol eraill Pen Llyn.
Mae’r wythfed twll, gyda’r llain bytio tua 75 troedfedd uwch eich pen, yn gryn her i unrhyw chwaraewr. Mae cyrraedd y llain mewn dwy ergyd yn dipyn o gamp! Mae’r nawfad twll yn arbennig iawn hefyd – par 3 tua 100 llath o hyd gyda’r llain bytio 100 troedfedd islaw!
Dewch i flasu’r hanes a’r golygfeydd a mwynhau gem o golff yr un pryd – mae croeso cynnes yn eich disgwyl.
Since 1905
C




